Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Steffan Rhys Williams

Canwr | Iaith: Cymraeg | Ganwyd: 1978

Gwefan MySpace: www.myspace.com/steffanrhyswilliams

Gwybodaeth

Steffan Rhys WilliamsMae Steffan wedi bod yn canu ers yn blentyn a fe astudiodd theatr a cerddoriaeth yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Fe ymddangosodd gynta ar y teledu ar y gyfres Llwyfan.

Ym 1999 fe ennillodd cystadleuaeth Cân i Gymru gan ysgrifennu a pherfformio y gân Torri'n Rhydd. Fe ddefnyddiodd yr arian a enillodd ar greu stiwdio recordio yn ei gartref. O 2001 i 2003 fe ymddangosodd fel rhan o'r grŵp Cic a grewyd ar gyfer rhaglen blant ar S4C. Yn ystod y cyfnod yma hefyd, fe aeth ar daith gyda band Steve Balsamo yn canu llais cefndir.

Mae Steffan yn dal i gyfansoddi ac ers 2001 wedi bod yn aelod o'r grŵp cymreig Millionaires.

Artistiaid Cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Ionawr 2007