Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Winabego

Grŵp | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 2002 -

Gwefan: www.winabego.moonfruit.com

Gwefan MySpace: www.myspace.com/winabego

Chwilio am gigs gyda'r artist yma

Gwybodaeth

WinebagoBand o Fethesda yw Winebago a ffurfiwyd yng Ngwanwyn 2002 . Bu iddynt weithio'n galed ar eu caneuon cynnar yn ystod y flwyddyn honno cyn perfformio'n fyw am y tro cyntaf yn Y Railway ym Mangor yn cefnogi The Keys. Ers y dyddiau cynnar mae Winabego wedi gigio'n gyson ledled Cymru. Fe recordiwyd a darlledwyd sesiwn i C2, Radio Cymru ym mis Mai, 2004.

Aethant i Stiwdio Sain ym mis Mehefin 2004 i ddechrau gwaith ar eu E.P. cyntaf. Rhyddhawyd yr E.P, 'Hyder Bregus' ym mis Tachwedd 2004 a bu'n 'Record yr Wythnos' ar raglen radio Huw Stephens. Cynhyrchwyd y recordiad gan Dyfrig Wyn Evans, gynt o Topper (mae Dyfrig hefyd yn frawd i Dylan, gitarydd Winabego). Mae'r traciau yn cynnwys Llawenydd Achlysurol, Dim Cytundeb, Symud Mewn Gofod, Unarddeg Dyn i Lawr a Lucifer's Lament.

Fe wnaethant ddychwelyd i'r stiwdio yn Ionawr 2005 i recordio traciau ar gyfer albym newydd a fydd allan yn 2005 (efallai).

Aelodau

Dylan Wyn Evans
Aled Wyn Jones
Meic Parry
Llewelyn Roberts

Disgyddiaeth

Hyder Bregus - (EP, CD, RASAL CD003, 2004)

Artistiaid Cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf: 05 Mai 2006