Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Y Cyrff

Grŵp | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1983 - 1991

Gwefan: www.ycyrff.co.uk

Gwybodaeth

Y CyrffFfurfiwyd y Cyrff gan ffrindiau yn Ysgol Dyffryn Conwy yn 1983. Fe roedd y band gwreiddiol yn cynnwys Emyr Davies yn canu, Dylan Hughes ar y drymiau, Mark Roberts yn chwarae'r gitar a Barry Cawley yn chwarae'r gitar fas. Nes ymlaen fe symudodd Emyr i ffwrdd o'r ardal a fe ymunodd Paul Jones ar y gitar fas.

Roedd eu caneuon cynta yn Saesneg ond fe'i annogwyd i ganu'n Gymraeg gan ei athro Daearyddiaeth, Toni Schiavone. Erbyn 1984/1985 roedd y band wedi rhyddhau nifer o senglau ac ymddangos ar y teledu. Blwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach roedd y cyfryngau wedi deffro i'w cerddoriaeth a fe ddaethant yn un fandiau mwya poblogaidd y cyfnod.

Erbyn 1991, roedd y canwr Mark Roberts wedi cyfarfod Cerys Matthews, a oedd wedi bod yn byscio yng Nghaerdydd. Fe chwalodd Y Cyrff, symudodd Mark i Gaerdydd a fe ddechreuodd hanes fand newydd, Catatonia.

Aelodau

Mark Roberts - llais / gitâr
Dylan Hughes - drymiau
Barry Cawley - gitâr
Paul Jones - gitâr fas

Artistiaid Cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Medi 2005