Newyddion
Cyhoeddi Perfformwyr Gig Mawr Bont
Dydd Mawrth, 10 Mehefin 2008 - 2:33pm | Gigs |
Mae trefnwyr gŵyl gerddoriaeth Gymraeg fwyaf Ceredigion, Gig Mawr Bont, wedi cyhoeddi enwau’r artistiaid fydd yn perfformio eleni. [mwy]
Hybu'r frwydr trwy'r Sîn Gerddorol Gymraeg
Dydd Gwener, 25 Ionawr 2008 - 5:15pm | Diwydiant |
Am y tro cyntaf erioed, neilltuir sesiwn gyflawn o Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas yr Iaith i'r sin gerddorol eleni. Bydd sesiwn y prynhawn yn trafod y cwestiwn "Sut i hybu'r frwydr trwy'r Sîn Gerddorol Gymraeg" . [mwy]
Cyhoeddi Wythnos o Adloniant yn Eisteddfod yr Wyddgrug 2007
Dydd Llun, 11 Mehefin 2007 - 1:11pm | Gigs |
Radio Luxembourg, Genod Droog, Meic Stevens, Bob Delyn, Elin Fflur, Y Sibrydion, Gai Toms, Huw Chiswell, Elin Fflur, Cowbois Rhos Botwnnog, Y Ffyrc, Steve Eaves a'r Band, Brigyn... Dim ond rhai o'r dros dri deg o artistiaid fydd yn perfformio mewn wythnos o gigs fydd yn cael eu cynnal gan Gymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug eleni. [mwy]
Yn ôl i Stesion Strata
Dydd Iau, 24 Mai 2007 - 10:17am | Gigs |
Mae un o gyn-drigolion pentref Pontrhydfendigaid, Tecwyn Ifan, wedi mynegi ei gyffro ynglŷn â dychwelyd i'r pentref i berfformio fel un o brif artistiaid Gig Mawr Bont eleni. [mwy]
Taith Theatrau Sea Môr Miwsig
Dydd Gwener, 18 Mai 2007 - 10:56am | Gigs |
Mae Taith Theatrau Sea Môr Miwsig wedi cael ei drefnu mewn lleoliadau ger y môr ag hwn yw'r ail yn y gyfres o gigs yn Theatr Ardudwy. [mwy]
Tocynnau Gig Mawr Bont ar Werth
Dydd Mawrth, 01 Mai 2007 - 4:56pm | Gigs |
Mae trefnwyr Gig Mawr Bont wedi cyhoeddi fod y tocynnau ar gael i'w prynu o ddechrau mis Mai. Bydd tocynnau'r ŵyl ddeuddydd ar gael o siopau lleol yn ogystal â swyddfa docynnau Pafiliwn Bont ac mae disgwyl iddynt werthu'n gyflym wedi cyffro cyhoeddi'r perfformwyr rai wythnosau'n ôl. [mwy]
Cyhoeddi Perfformwyr Gŵyl Gynta’r Haf
Dydd Iau, 05 Ebrill 2007 - 1:24pm | Gigs |
Mae trefnwyr Gig Mawr Bont wedi cyhoeddi enwau'r artistiaid fydd yn perfformio eleni yn yr ŵyl fydd yn cael ei chynnal dros benwythnos olaf mis Mehefin. Heb os, y prif atyniad fydd prif artist nos Sadwrn, Bryn Fôn, sy'n debygol iawn o lenwi'r Pafiliwn newydd ym Mhontrhydfendigaid sy'n dal hyd at 2900 o bobl. [mwy]
Cymdeithas yr Iaith yn Lansio Brwydr y Bandiau 2007
Dydd Mawrth, 06 Chwefror 2007 - 10:23am | Artistiaid |
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, prif drefnwyr gigiau Cymraeg, wedi cyhoeddi cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2007 gyda'r ffeinal i'w chynnal yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Yr Wyddgrug fis Awst, a phecyn gwobrau gwych fel arfer i [mwy]
Gŵyl Dewi Drwg - Y Dydd Gŵyl Ddewi Amgen
Dydd Mercher, 31 Ionawr 2007 - 12:16pm | Gigs |
Mae Gŵyl y Cenhedloedd Bychain ac Undeb Myfyrwyr Llambed yn dod at ei gilydd i gyflwyno noson o rialtwch dieflig Cymreig sy'n cyfuno doniau dau o'r bandiau Cymreig cyfoes gorau gyda cherddoriaeth ein DJs brethyn cartref. [mwy]
Ffatri Gerddoriaeth Llanrwst yn parhau i gynhyrchu
Dydd Gwener, 24 Tachwedd 2006 - 5:24pm | Artistiaid |
Bydd y grwp diweddaraf i ddod allan o ffatri gerddoriaeth Llanrwst, Jen Jeniro, yn rhyddhau eu CD cyntaf yn ystod gwyl Llanast Llanrwst eleni. [mwy]